Yn lle (Y dynion gwaethaf dan y ne')
Yn lle yn lle (Pob perchen enaid dan y ne')

(Marwolaeth yr Oen)
      Yn lle, yn lle,
Pob perchen enaid dan y ne',
Yr Oen difai, dyoddefodd E';
  A hyn wy'n ddadlu, f'Arglwydd Dduw;
    A than ei gysgod gwnaf fy nyth;
  A molaf byth
          ei enw gwiw.

      Yr Oen, yr Oen,
Aeth dan fy mhechod i a'm poen,
Ni thawaf byth am dano son;
  Ei gariad tirion fydd fy nghan,
    Am achub un mor wael ei lun,
  A'm dwyn ei hun
          o'r gyneu dân.
Grawn-Sypiau Canaan 1829
              - - - - -

      Yn lle
Y dynion gwaethaf dan y ne',
Y difai Oen, dyoddefodd E;
  A hyn wy'n ddadleu byth, fy Nuw;
    A than ei gysgod
            gwnaf fy nyth,
  I'w garu byth
          tra byddwyf byw.

      Nid oes
A ddeil fy ysbryd dan bob croes,
Ond dwyfol haeddiant angeu loes,
  Dyddanwch f'oes yw ei fwynhau;
    'Does gysur arall mewn un man,
  Fe fydd fy rhan byth i barhau.
Casgliad o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841

Tôn [2288.888]: Glan yr Afon (David Davies 1810-75)

gwelir:
  Dal fi (Er fy ngelynion aml ri')
  Mae Mae (Ein Harglwydd hael yn trugarhau)
  Mae mae (Y dydd yn d'od i'r duwiol rai)
  Mae mae (Yr amser hyfryd yn nesáu)
  Nid oes (A ddeil fy Ysbryd dan bob croes)
  O pwy (All chwilio dyfais dwyfol glwy')?
  Trwy ffydd (Yn ngwaed yr Oen i'n gwnaed yn rhydd)
  Yn rhad ('R wy'n disgwyl rywbryd gael iachâd)

(The Death of the Lamb)
    In the place, in the place,
Of every possessor of a soul under heaven,
The faultless Lamb, he suffered;
  And this I am arguing, my Lord God;
And under his shadow I will make my nest;
  And I shall praise forever
        his worthy name.

    The Lamb, the Lamb,
Underwent under my sin and my pain,
I shall be silent from mentioning him;
  His tender love shall be my song,
For saving one so poor his condition,
  And taking me himself
        out of the kindling flame.
 
              - - - - -

      In the place
Of the worst man under heaven,
The faultless Lamb, he suffered;
  And this I am arguing forever, my God;
    And under his shadow
            I shall make my nest,
  To love him forever
          while ever I am living.

      There is none
Who shall hold my head under every cross,
But the divine merit of the throes of death,
  The delight of my life is to enjoy him;
    There is no other comfort in any place,
  He shall be my portion forever to endure.
tr. 2022 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~